Cyrraedd Yma

Mae’n hawdd iawn cyrraedd Rhondda Cynon Taf. Rydym ni wedi’n lleoli yn y De, mewn lleoliad delfrydol rhwng Bannau Brycheiniog a phrifddinas Cymru, Caerdydd.

Brasamcan yw’r holl gyfarwyddiadau a milltiroedd ac maent wedi’u seilio ar y pellter o’r man gadael a nodir, i Bontypridd.

Ar y Ffordd

Ar y Ffordd

O’r Gorllewin (Gorllewin Cymru, Cysylltiadau ag Iwerddon)

Dilynwch yr A40 a’r A48 tua’r Dwyrain tan i chi gyrraedd yr M4 ym Mhont Abraham (ychydig y tu allan i Abertawe). Ewch ymlaen tua’r Dwyrain tan gyffordd 33 ar gyfer Llantrisant a Chymoedd y Rhondda neu Gyffordd 32 ar gyfer yr A470 i’r gogledd i Bontypridd ac Aberdâr.

Abertawe 44 Milltir
Penfro 100 Milltir
Abergwaun 113 Milltir

O’r De (M5, Cernyw, Dyfnaint, Gwlad yr Haf)

Dilynwch yr M5 i Fryste ac ymunwch â’r M49 i’r Ail Bont Hafren a’r M4 i Gymru. Yng Nghyffordd 32, trowch ar yr A470 i’r Gogledd tua Phontypridd ac Aberdâr neu Gyffordd 33 i Lantrisant a Chymoedd y Rhondda.

Bryste 51 Milltir
Caerwysg 121 Milltir
Redruth 210 Milltir

O’r Dwyrain (Coridor yr M4, Dwyrain a De-ddwyrain Lloegr, Cysylltiadau ag Ewrop)

Dilynwch yr M4 i’r Gorllewin at Ail Bont Hafren. Parhewch tua’r Gorllewin tan cyrraedd Cyffordd 32 lle gallwch droi ar yr A470 i’r Gogledd tua Phontypridd ac Aberdâr neu Gyffordd 33 i Lantrisant a Chymoedd y Rhondda.

Caerfaddon 63 Milltir
Rhydychen 125 Milltir
Llundain 158 Milltir
Folkestone 234 Milltir
Dover 241 Milltir

O’r Gogledd (M5/M6, Gogledd Cymru, Gogledd Lloegr, yr Alban)

Dilynwch yr M6 / M5 i’r De tua’r M50. Dilynwch yr M50 i’r Rhosan ar Wy. Yno, ymunwch â’r A40 a’i dilyn tua’r Gorllewin tan ymuno â’r A465. Yn Nowlais ar yr A465, trowch i’r de i ymuno â’r A470 (neu parhewch tua’r Gorllewin i gyrraedd Aberdâr).

Caer 141 Milltir
Caerhirfryn 244 Milltir
Glasgow 405 Milltir
Caeredin 438 Milltir

Ar Drên

Ar Drên

Gellir cyrraedd Caerdydd ar y prif rwydwaith rheilffordd ac mae trenau’n cyrraedd o Orsaf Paddington yn Llundain bob hanner awr.

www.firstgreatwestern.co.uk

Rheilffyrdd y Cymoedd

Trenau Arriva Cymru sy’n rhedeg gwasanaethau rheilffordd o’r Cymoedd i Gaerdydd.

Mae gwasanaethau’n rhedeg i drefi Treherbert, Aberdâr a Phontypridd a gorsafoedd cyswllt rhwng y trefi hyn.

Gellir archebu tocynnau ar y ddolen ganlynol.

www.arrivatrainswales.co.uk/home.aspx

Neu ar y wefan National Rail Enquiries.

www.nationalrail.co.uk/index.html

Ar Long

Rosslare – Penfro (Irish Ferries)
http://www.irishferries.com

Rosslare – Abergwaun (Stenaline)
ww.stenaline.ie/stena_line/gb/stena_line_ireland.html ·

Cork – Abertawe

Nid yw’r gwasanaeth hwn yn rhedeg ar hyn o bryd, ond gobeithio y bydd cwmni yn dechrau hwylio yn 2008 neu 2009.

Mewn Awyren

Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd 22 Milltir

www.cwlfly.com

Awyrennau rheolaidd o Belfast, Caeredin, Newcastle, Paris, Prague, Dulyn, Cork ac Amsterdam.

Maes Awyr Rhyngwladol Bryste 56 Milltir

www.bristolairport.co.uk

Maes Awyr Rhyngwladol Birmingham 128 Milltir

www.bhx.co.uk

London Heathrow 143 Milltir

www.heathrowairport.com

Hawlfraint 2008 CBS RhCT - 1024x768 ydy'r manylder gorau ar gyfer y safle yma