Telerau ac amodau
Ymwadiad
Bydd CBS Rhondda Cynon Taf yn ceisio gofalu bod gwefan destinationrct.co.uk yn gywir a dibynadwy. Serch hynny, dydy e ddim yn gwarantu bod yr wybodaeth, cynnyrch, gwasanaethau a graffigau sy wedi’u cynnwys ar y wefan yma at unrhyw ddiben yn gywir, yn ddibynadwy, yn gyflawn neu’n addas.
Bydd CBS Rhondda Cynon Taf, ei gyflogeion, cyflenwyr a phartïon eraill sy ynglŷn â pharatoi a chynnal y gwefan yma ddim yn atebol am unrhyw iawndal uniongyrchol neu anuniongyrchol neu iawndal arbennig neu gysylltiedig, colledion neu anghyfleustra sy’n deillio o ddibynnu ar gynnwys y wefan neu sy’n deillio o ddefnyddio’r wefan yma.
Mae CBS Rhondda Cynon Taf yn darparu defnydd o’r wefan yma yn unol â’r amodau a’r telerau canlynol:
1. Mae defnyddio’r wefan yma’n gyfystyr â derbyn yr amodau a’r telerau yma a bydd y rhain yn dod i rym o’r dyddiad rydych chi’n cyrchu’r wefan yma gyntaf. Mae CBS Rhondda Cynon Taf yn cadw’r hawl i newid yr amodau a’r telerau yma ar unrhyw adeg drwy gyhoeddi’r newidiadau ar lein. Os byddwch chi’n parhau i gyrchu’r wefan ar ôl i’r newidadau yma gael eu cyhoeddi bydd hynny’n gyfystyr â derbyn yr amodau a’r telerau sy wedi’u newid.
2. Mae’r wefan yma wedi’i bwriadu at eich defnydd personol chi ac nid at ddibenion masnachu. Chewch chi ddim copio, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, islwytho, postio, darlledu neu drosglwyddo unrhyw beth mewn unrhyw fodd
heblaw ar gyfer eich defnydd personol chi ac nid at ddibenion masnachu. Bydd angen ichi gael caniatâd ysgrifenedig y Cyngor ymlaen llaw i ddefnyddio’r wefan yma mewn unrhyw fodd arall.
3. Rydych chi’n cytuno i ddefnyddio’r wefan yma at ddibenion cyfreithiol yn unig, ac mewn modd sy ddim yn amharu ar hawliau trydydd parti neu’n cyfyngu neu’n gwahardd eraill rhag defnyddio’r wefan neu’i mwynhau. Rydych chi hefyd yn cytuno i beidio â phoeni, achosi anghyfleustra neu bryder di-angen i drydydd parti wrth gyrchu’r wefan yma. Mae’r fath gyfyngu neu wahardd yn cynnwys, ymddygiad sy’n aflonyddu, anghyfreithiol, difenwol neu sarhaus a fyddai efallai’n aflonyddu neu’n peri gofid, anghyfleustra neu’n bygwth unrhyw un ynghyd ag anfon cynnwys anllad neu fygythiol neu darfu ar lif deialog arferol gyda’r wefan yma.
4. Mae’r gwefan yma’n cynnwys cysylltau i wefannau eraill. Efallai na fydd y Cyngor yn cynnal y rhain. Dydy’r Cyngor ddim yn gyfrifol am gynnwys y rhain a dydy e ddim yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw beth sy’n digwydd yn sgíl defnyddio’r gwefannau.
5. Bydd y Cyngor yn ceisio gofalu bod yr wybodaeth i gyd ar y wefan yma’n gywir ond dydy e ddim yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriadau neu fylchau. Dydy’r Cyngor ddim yn gwarantu na fydd tarfu ar ddefnydd pobl o’r wefan.
Mae’r Cyngor yn darparu’r cynnwys sy wedi’i gyhoeddi ar y wefan yma ar yr amod ei fod yn ymwrthod â chyfrifoldeb am unrhyw warant mewn perthynas â’r cynnwys boed hynny’n ddatganedig neu’n oblygedig. Dydy’r cyngor, ei gyflogeion, ei gyflenwyr a’r sawl sy wedi darparu’r cynnwys yn wreiddiol ddim yn atebol/gyfrifol ar gyfer busnesau’n colli cwsmeriaid, refiniw neu elw mewn modd uniongyrchol, anuniongyrchol, canlyniadol neu ddamweiniol nag ar gyfer unrhyw golledion o ganlyniad i gynnwys y wefan yma neu ddefnydd o’r wefan yma.
6. Rydych chi’n derbyn bod hawliau deallusol i gyd gan gynnwys hawlfraint a hawliau cronfeydd data a’u cynnwys yn eiddo i’r Cyngor neu wedi’u trwyddedu iddyn nhw a bod cyngor yn defnyddio’r rhain mewn modd cyfreithiol.
7. Mae hawl gyda’r cyngor i olygu unrhyw gynnwys sy’n cael ei anfon i’r wefan, gwrthod ei gyhoeddi neu’i dynnu o’r wefan. Dydy’r cyngor ddim yn gyfrifol nac yn atebol am unrhyw gynnwys sy’n cael ei gyhoeddi ar y wefan yma, ar wahân i’r cynnwys mae’r Cyngor yn ei gyhoeddi. Mae unrhyw farn, cyngor, datganiad, cynnig neu wybodaeth arall sy wedi’i fynegi gan drydydd parti neu mae trydydd parti yn ei gyhoeddi yn perthyn i’r trydydd parti dan sylw. Dydy’r Cyngor ddim yn cymeradwyo neu’n gyfrifol am gywirdeb cynnwys trydydd parti neu’n atebol/gyfrifol ynglŷn ag e.
8. Mae’r amodau a’r telerau yma’n cael eu rheoli’n unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw ddadlau a geir dan yr amodau a’r telerau yma’n amodol ar awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.
9. Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw beth ar y wefan yma sy’n peri pryder ichi, yna rowch wybod inni.
10. Onid ydych chi’n fodlon ar unrhyw ran o’r wefan yma neu amodau a thelerau defnyddio’r wefan, rhowch y gorau i gyrchu’r wefan ar unwaith.
11. Os bydd unrhyw un o’r amodau a’r telerau yma’n gael eu pennu’n anghyfreithlon, yn annilys neu fel arall yn anorfodadwy yna i’r graddau bydd yr amod neu’r teler yma’n anghyfreithlon, yn annilys neu’n anorfodadwy, bydd e’n cael ei ddileu o’r cymal a bydd gweddill yr amodau a’r telerau’n aros, yn cael eu gorfodi a bydd grym cyfraith iddyn nhw.