Gweld a Gwneud
Mae cymaint i’w weld ac i’w wneud yn Rhondda Cynon Taf. Ydych chi’n mwynhau cerdded neu feicio? Ydych ch’i hoffi gweld cefn gwlad, a golygfeydd trawiadol? Neu ydych chi’n dilyn diwylliant a difyrrwch? Mae yma gyfoeth o theatrau, corau, bandiau, ac artistiaid o bob math. Ydych chi’n hel achau, neu’n hoffi hanes? Cewch ddigonedd o wybodaeth am ein treftadaeth gyfoethog. Cewch amser i’w gofio. Dewch yn llu!
- Outdoors

- Mae’r Cymoedd yn cynnig llond byd o wahanol brofiadau. Beth bynnag yw’ch diddordebau, cewch gyfle gwych i hamddena yma gyda ni.
- Culture

- Croeso i Gymru. Ac i’r Cymoedd. Ac i’r tafarnau a’r clybiau, y gwestai a’r Gwely a Brecwast, a’r theatrau, a’r digwyddiadau a’r gwyliau, a’r tai bwyta a’r amgueddfeydd a’r parciau gwledig.Ydyn ni wedi anghofio rhywbeth?
- Heritage

- Mae treftadaeth Rhondda Cynon Taf yn brigo i’r wyneb ym mhob man. Dyma’r lle i olrhain gwreiddiau’r Chwyldro Diwydiannol.