Gwyl Gerdded Cymoedd Cymru
Mae’r dudalen hon yn cael ei chyfieithu. Ymddiheurwn am yr oedi.
Croeso
Mae Gŵyl Gerdded Cymoedd Cymru y flwyddyn hon wedi cael ei lansio. Eleni mae’r ŵyl yn fwy ac yn well nag erioed, gyda thros 40 o deithiau cerdded yng nghwmni tywysydd.
Y Cymoedd sy’n cynnig yr ŵyl gerdded orau yn 2008?. Dyma’r rhesymau:
Cewch gyfle i weld mor drawiadol o hardd yw Cymoedd y De y dyddiau hyn.
Does dim glofeydd i’w gweld erbyn hyn – ac eithrio ambell un sy’n croesawu ymwelwyr! Ond mae bryn a dôl, tref a phentref, ystrad gul ac wybren faith yn gweu gorwel unigryw lle cewch groeso twymgalon.
Beth bynnag yw’ch gallu neu’ch diddordebau, bydd llwybr cerdded ar eich cyfer chi. Ydych chi newydd ddechrau cerdded fel hobi? Well gennych chi dro bach hamddenol? Teithiau cerdded ‘Camau Cyntaf’ yw’r rhai i chi. Os ydych chi’n hen gyfarwydd â theithiau cerdded, byddwch chi’n mwynhau’r rhai ‘Codi Cyflymder’ a ‘Cerdded Ymlaen’. Byddai Gŵyl Gerdded yn anghyflawn heb ambell i daith i’r cerddwyr mwyaf profiadol. Os ydych chi’n hen law, rhowch gynnig ar daith ‘Dros Bant a Bryn’. A bydd ein tywyswyr profiadol a brwd ni yn fwy na pharod i ddangos pam maen nhw mor falch o’r Cymoedd.
Bant â’r cart!
Tîm Gŵyl Gerdded Cymoedd Cymru 2008
Islwythwch eich copi chi o’r llyfryn yma. (5.4MB) (yn Cymraeg)
Hoffech chi wybodaeth bellach? Cysylltwch â:
Ffôn 01495 355937
Dyma’r rhif i ofyn am lyfryn neu archebu lle:
Ffôn 01495 355800
