Cerdded
Te ar y teras
Os ydych chi’n hoffi Earl Grey, Darjeeling neu’r hen Typhoo, beth am aros am baned.
Does dim angen clodfori’r golygfeydd. Ymlaciwch. Gwerthfawrogwch nhw. Gwrandewch ar fwrlwm yr afon a gwyliwch yr haul yn gwenu y tu ôl i’r rhubanau o dai teras sy’n addurno ochrau’r cymoedd. Golygfa wych.
Cerdded, Gorffwys a Chwarae yn Rhondda Cynon Taf
Yn Rhondda Cynon Taf gallwch ddewis cerdded yn hamddenol ar lwybr ar lan yr afon neu daith anturus ar y bryniau. Gallwch ymuno â thaith dywys, dilyn llwybr ag arwyddion neu gynllunio’ch antur eich hun.
Mynediad agored
Mae gan y Sir ardaloedd mawr o dir â mynediad agored, lle gallwch ddilyn eich trwyn yn eich amser eich hun. Mae tir mynediad agored wedi’i nodi ar fapiau O.S. ac mae manylion ar gael ar wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Mae tir mynediad agored yn cynnwys gweundir, ffridd, tir comin a choedwigoedd, yn cyrraedd ffiniau trefi’n aml. Mae gan Gomisiwn Coedwigaeth Cymru Ganolfan Ymwelwyr yng Ngarwnant, a meysydd parcio a mannau picnic mewn gwahanol leoedd. Ewch i wefan y Comisiwn Coedwigaeth am fanylion.
Teithiau cerdded hir
Mae pedair taith gerdded hir sy’n croesi drwy Rhondda Cynon Taf.
· Llwybr Coed Morgannwg o Barc Margam i Ferthyr, sef taith 36 milltir llawn her ar dir anghysbell, gan groesi rhan uchaf y sir a Pharc Gwledig Cwm Dâr, gyda golygfeydd ysblennydd am filltiroedd.
· I’r gwrthwyneb, mae gan rannau helaeth o Lwybr Taf (Caerdydd i Ferthyr), sy’n dilyn llwybrau hen reilffyrdd, arwyneb gwastad.
· Mae Llwybr Cefnffordd Taf Elái (21 milltir o Fynydd Maendy yn y Gorllewin i Dir Comin Caerffili yn y Dwyrain) yn dilyn ymyl ddeheuol y maes glo, i fyny ac i lawr drwy olygfeydd amrywiol a heibio digon o dafarndai! Gyda llu o feysydd parcio, cysylltiadau bws a rheilffordd gerllaw, mae’r llwybr hwn yn ddelfrydol ar gyfer teithiau cerdded cylchol, byr.
· Mae’r Llwybr Awyr i’r Môr yn ymlwybro am 16 milltir o Barc Gwledig Cwm Dâr i Barc Gwledig Bryngarw.
Llwybrau cylchol byr
· Mae’r llyfryn Loops and Links (£16.99 o www.loopsandlinks.co.uk neu siopau llyfrau lleol) yn cynnwys 18 o deithiau cerdded cylchol o wahanol feintiau (12km i 72km) a lefelau.
· Mae llyfryn o’r enw Walking Short Breaks hefyd ar gael sy’n rhoi sylw i bum taith gerdded fyr yng nghefn gwlad Rhondda Cynon Taf. Mae’r teithiau’n cynnwys Aberdâr, Treherbert, Llanhari a Brynna, Penderyn ac Ynys-y-bwl.
· Cyfres o 6 thaith gerdded yw’r llwybrau cwningen yn ardal Llantrisant. Cawsant eu sefydlu gan Gymdeithas Cerddwyr Taf Elái ac mae nhw ar gael i’w lawrlwytho neu eu hargraffu oddi ar eu gwefan
· http://www.apyule.demon.co.uk/walkindex.htm
· Mae taith gerdded gylchol ym Mharc Gwledig Barry Sidings sy’n eich arwain drwy’r parc ac i fyny i’r coetir ar y llechwedd. Mae taflenni ar gael o’r ganolfan ymwelwyr.
Arwain y ffordd…os ydych chi am gymryd rhan mewn teithiau cerdded tywysedig
|
Cymdeithas Cerddwyr Taf Elái |
Ewch i’w gwefan http://www.apyule.demon.co.uk/walkindex.htm |
|
Cerddwyr Cwm Cynon |
Cysylltwch â Christine Harrison allan.harrison1@btopenworld.com. |
|
Cerddwyr Glyncornel |
Cysylltwch â Lesley Jones 01685 874672 |
|
Gŵyl Gerdded Flynyddol Cerdded y Cymoedd |
Cysylltwch ag Uned Dwristiaeth Rhondda Cynon Taf ar 01443 490238 |
I weld cronfa ddata o lwybrau cerdded a seiclo yn ardal Rhondda Cynon Taf, cliciwch yma.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’ misol, cliciwch yma
.