Taith Taf
Llwybr 55 milltir / 93 km ag arwyddion ar gyfer cerddwyr a seiclwyr, yn cysylltu tref farchnad Aberhonddu â Dinas Caerdydd, yw Taith Taf. Mae’n cysylltu rhannau o’r rhwydwaith trafnidiaeth hanesyddol i greu un ffordd.
Seiclo Heb Draffig
Mae Taith Taf yn arwain trwy rai o’r tirweddau harddaf a mwyaf amrywiol yn Ne Cymru.
Mae dros hanner y llwybr ar lonydd heb draffig neu ffyrdd mynediad tawel, a’r gweddill ar lonydd cefn gwlad a mân ffyrdd. Ceir ambell ran fer sy’n serthach na’r gweddill, ond mae’r rhan fwyaf yn gymharol wastad sy’n golygu ei fod yn llwybr braf i feicwyr. Mae’r wyneb yn amrywio o darmac i lwch wedi’i drin a llwybrau coedwig o safon uchel. Sylwer y bydd un rhan rhwng Cilfynydd ac Abercynon, a arferai fod ar y ffordd fawr, yn cael ei symud yn fuan i lwybr pwrpasol, heb draffig.
Archwiliwch y chwyldro diwydiannol ar droed neu feic
Ar y cyfan mae creithiau’r diwydiant haearn a glo a ddaeth â’r fath fri byd-eang i Ferthyr Tudful a Dyffryn Taf wedi diflannu bellach. Ond mae’r etifeddiaeth - llwybrau halio’r camlesi, tramffyrdd a hen reilffyrdd - yn eich galluogi chi i ddilyn corridor gwyrdd sy’n llawn hanes difyr yr hen gymunedau glo a’r hen drefi diwydiannol.
Castell hudolus
Mae Castell Coch hudolus yn teyrnasu tros geunant cul Afon Taf, a newid arall yn y dirwedd. O’r fan yma mae’r llwybr yn disgyn at lannau’r afon Taf ac yn dilyn glan yr afon i ganol Caerdydd, gan ddod i ben ger datblygiadau modern chwaethus Bae Caerdydd.
Cliciwch y ddolen hon i lawrlwytho copi o daflen Taith Taf o wefan Sustrans.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’, cliciwch yma.