Parc Aberdâr
Lleolir Parc Aberdâr yn Nhrecynon, i gyfeiriad gogledd Aberdâr. Mae yna fynedfeydd i’r parc oddi ar Hirwaun Road (B4275), mynedfa uchaf i’r parc trwy Park Lane neu oddi ar Glan Road ar gyfer ceir i’r anabl. Neu, mae’r prif gatiau i’r parc trwy’r porthdy wrth gyffordd Glan Road a Gadlys Road.
Hanes
Mae Parc Aberdâr yn barc cyhoeddus o oes Fictoria sydd wedi’i gadw’n dda. R.H. Rhys, cadeirydd y bwrdd iechyd lleol a barodd i’r parc gael ei sefydlu ar ran o gomin Hirwaun. Ym 1863 dywedodd wrth y bwrdd y byddai’r 'Meysydd Pleser' o bron i hanner can erw (20.25 hectar) yn cael eu trosglwyddo’n fuan iawn i oruchwylwyr y plwyf fel y gellid adeiladu lle pleserus i drigolion Aberdâr ddianc o lwch a budreddi eu bywyd bob dydd. Agorodd y parc ar 27 Gorffennaf 1869 ac ym 1870 benthycodd y bwrdd iechyd lleol £5000 i adeiladu mur, draenio a phlannu’r parc.
Gwnaed y gwaith tirlunio a phlannu yn y parc gan William Barron (1805-1891), garddwr a gynlluniodd sawl parc cyhoeddus yn Lloegr o 1860 ymlaen. Cwblhawyd prif waith adeiladu’r parc yn y cyfnod 1860-1870, gan gynnwys nodweddion megis pyllau pysgod, llwybr cylchol a mur y ffin.
Ym 1911 cafodd trigolion Aberdâr ffownten haearn bwrw yn rhodd gan yr Arglwydd Merthyr i goffáu coroni’r Brenin Siôr V a Mary ym 1911. Mae hon yn un o dair ffynnon yn unig o’r math a’r cyfnod hwn yn y wlad.
Ym 1954 cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn y parc a chodwyd Cylch yr Orsedd gwych i goffáu’r digwyddiad.
Mae llawer o gyfleusterau ym Mharc Aberdâr sy’n ei wneud yn lle bendigedig am ddiwrnod allan gyda’r teulu. Mae’r mannau agored, eang yn ei wneud yn lle delfrydol i’r plant chwarae a phan fyddan nhw wedi blino ar hynny beth am fynd â nhw i fwydo’r adar gwyllt yn yr ardal fwydo ddynodedig.
Pethau i’w gweld ac i’w gwneud
Mae digon i blant hŷn ac oedolion ei wneud a’i weld yma. Mae yna ddwy lawnt fowlio, cyrtiau tennis ac yn yr haf gellir clywed a gweld bandiau lleol yn chwarae ar y llwyfan perfformio.
Os am wneud i’ch calon guro’n gyflymach dewch i’r parc yn ystod mis Gorffennaf i weld y rasys beiciau modur. Yn y gorffennol gwelwyd mawrion megis Jeff Duke, John Surtees a Mike Hailwood yn dangos eu gallu a’u rhagoriaeth wrth rasio o amgylch cylchffordd Rasio Ffordd Cenedlaethol, sef llwybr cylchol y parc.
I’r garddwr brwd, mae digon i’w weld gyda llawer o goed sbesimen aeddfed megis Metasequioia glyptostroboides (Cochwydden Wawr) a Fagus heterophylla laciniata (Ffawydden Dail Rhedyn). Mae’r arddangosfeydd blodau yn y gwanwyn a’r haf fel carpedi llachar, llawn lliw tra bo’r Rhododendron a’r asaleas yn dod â bywyd i ardal y Rhaeadrau yn y gwanwyn.
Amserau Agor Parc Aberdâr
Yn fras bydd yn cau am 16:30 yn nyfnder y gaeaf a 22:00 ganol haf. Mae’r amserau wedi’u harddangos yn y parc.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’ cliciwch yma.