Parciau

Rydyn ni mor falch o’n parciau fel ein bod ni am eu rhannu gyda chi.

Mae pob un ohonyn nhw’n hardd gydol y flwyddyn ac mae gan bob un o leiaf un stori i’w hadrodd.

Boed yn hanes Pontypridd ac Anthem Genedlaethol Cymru ym Mharc Coffa Ynysangharad, Rasys Ffordd Parc Aberdâr neu hanes cythryblus Morwyn y Llyn ym Mharc Darren Glynrhedynog, bydd yno rywbeth diddorol a chyffrous, yn ogystal â bod yn hardd wrth gwrs.

Evan and James memorial ynysangharad war memorial park 2

Mae pob parc traddodiadol yn cynnwys arddangosfeydd tymhorol, blodau a choed, a chyfleusterau chwaraeon megis lawntiau bowlio, meysydd chwaraeon y gaeaf a meysydd criced o’r radd flaenaf.

Prif barc y Fwrdeistref Sirol yw Parc Coffa Ynysangharad, sydd wedi ennill Gwobr Banner Werdd. Y wobr hon yw’r safon genedlaethol ar gyfer parciau a llecynnau glas yng Nghymru a Lloegr. Cychwynnodd y cynllun ym 1996 fel modd o gydnabod a gwobrwyo’r llecynnau glas gorau yn y wlad.

Mae pob un o’r prif barciau yn berffaith i’ch ysgogi a’ch cynhyrfu neu i roi cyfle i ymdawelu ac ymlacio mewn amgylchedd hardd a llonydd.

I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’ cliciwch yma.

Aberdare Park
Aberdare Park is in Trecynon, towards the north end of Aberdare.
Bronwydd Park
Bronwydd Park is Porth's only public park.
Darran Park
Ferndale’s greatest assets are its three extensive parks, of which Darran Park is a secret too long kept.
Ynysangharad Park
Ynysangharad War Memorial Park is located in the centre of Pontypridd.
Barry Sidings Countryside Park
Barry Sidings
Barry Sidings Countryside Park, meadows, walks and visitor centre cafe
Hawlfraint 2008 CBS RhCT - 1024x768 ydy'r manylder gorau ar gyfer y safle yma