Pysgota
Mae brithyll bellach yn ffynnu yn y dyfroedd glân sy’n llifo i lawr y cymoedd ac i mewn i’r Afon Taf. Mae’r dirwedd fryniog yn golygu bod yma afonydd byrion, serth ac mae’r amrywiaeth o bysgod yn afonydd Taf, Rhondda ac Elái yn rhoi’r cyfle i chi gael blas ar bysgota amrywiol a hamddenol.

Yr Afon Taf
Mae’r Afon Taf yn tarddu ar darren yr Hen Dywodfaen Goch ym Mannau Brycheiniog, 975 troedfedd uwchben lefel y môr ac yn llifo am oddeutu 30 milltir drwy Ferthyr Tudful, Abercynon, Pontypridd a Chaerdydd cyn ymuno ag Aber Afon Hafren. Mae llwybr pysgod yn rhan o’r morglawdd a adeiladwyd gan gyn Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd er mwyn i eog a sewin allu cyrraedd yr afon, ac mae brithyll a phenllwydion yn ffynnu yn y dyfroedd isaf.
Yr Afon Elái
Mae’r Elái yn tarddu i’r gogledd o Donyrefail ac yn llifo i’r de-ddwyrain tuag at Donysguboriau, Pontyclun a Meisgyn cyn troi tua’r dwyrain heibio Llanbedr-y-fro, drwy Sain Ffagan ac i mewn i Fae Caerdydd yn Llandochau, Caerdydd.
Mae eog yn mentro i’r dyfroedd isaf o bryd i’w gilydd, sydd hefyd yn cynnwys stociau cymysg o frithyll a physgod bras.
Mae’r blaenddyfroedd yn gartref i frithyll gwyllt.
Trwydded Pysgota â Gwialen Asiantaeth yr Amgylchedd
Mae’n rhaid i unrhyw un dros 12 oed, sy’n pysgota mewn dŵr croyw yng Nghymru (a Lloegr), brynu a meddu ar drwydded pysgota â gwialen ddilys Asiantaeth yr Amgylchedd cyn mynd i bysgota ac mae’n rhaid iddynt gario’u trwydded wrth bysgota mewn dŵr croyw bob tro. Mae prisiau ar-lein ar gael gan Asiantaeth yr Amgylchedd yma.
Mae sawl clwb pysgota preifat yn yr ardal sy’n rhoi trwyddedau pysgota, ynghyd â thrwydded pysgota â gwialen Asiantaeth yr Amgylchedd, er mwyn i bysgotwyr allu pysgota yn eu dyfroedd preifat.
Gallwch brynu’r trwyddedau clwb pysgota lleol o Swyddfeydd Post lleol yn yr ardal, o sawl siop chwaraeon (e.e. Army Surplus & Guns yn Nhonypandy) neu o’r siop Spar yng Nglynrhedynog ar gyfer Llyn Parc Darran.

Cymdeithas Bysgota Glyncornel
Y lleoliad cyntaf ar gyfer Pysgota yn Rhondda Cynon Taf yw Cymdeithas Bysgota Glyncornel sy’n meddu ar yr hawliau pysgota i ddeng milltir o’r Afon Rhondda (rhwng Treorci a Threhafod) a’i lednentydd a Llyn Glyncornel Tonypandy. Mae llawer yn synnu gydag ansawdd uchel Afon Rhondda, sydd heb os yn un o’r afonydd brithyll gorau ym Mhrydain. Mae rhagor o wybodaeth am drwyddedau a therfynau dalfeydd Cymdeithas Bysgota Glyncornel yma.Pysgodfa Tri Nant
Mae’r Countryman Inn a Physgodfa Tri Nant yn cynnig dau lyn, ac mae’r ddwy’n cael eu cyflenwi gan ffynhonnau. Mae’r cyntaf yn cynnig detholiad o frithyll, brithyll seithliw a glas, tra bod yr ail yn cynnig detholiad o bysgod bras fel carp, ysgreten, rhufell a merfog. Mae rhagor o wybodaeth ar wefan y Countryman Inn yma.

Cysylltiadau defnyddiol
Cymdeithas Bysgota Glyncornel, Gelli, Rhondda, Ffôn 01443 432289
Cymdeithas Pysgotwyr Plu Aberpennar, Hirwaun, Aberdâr, Ffôn 01685 812022
Cymdeithas Pysgotwyr Plu’r Gweilch, Glancynon Terrace, Abercynon, Ffôn 01685 877112
Cymdeithas Bysgota Rhondda Uchaf, Blaenrhondda, Ffôn 01443 777650
Cymdeithas Bysgota’r Cymoedd (Llyn Aberdâr), Ffôn 01685 882632
Pysgodfa Tri Nant, Llantrisant, Pont-y-clun, Ffôn 01443 228 316
Pysgotwyr Llantrisant a Phont-y-clun, Ffôn 01443 237 191

Siopau Offer Pysgota
Fishing World Cyf, Tonyrefail, Ffôn 01443 670218
Army Surplus & Guns, Tonypandy, Ffôn 01443 432856
Cliff Harvey Angling Supplies, Pontypridd, Ffôn 01443 400766
P.B.J Sport & Leisure, Aberaman, Ffôn 01685 884295
Valleys Angling, Aberaman, Ffôn 01685 882632
I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’ misol, cliciwch yma.