Cyclio
Mynd am dro
Tagfeydd traffig – dim diolch!
Yma yn Rhondda Cynon Taf ein nod yw arafu a mwynhau ein golygfeydd. Ac mae digonedd ohonyn nhw. Cribau mynydd uchel, coedwigoedd a rhaeadrau wedi’u cysylltu â rhwydwaith o lwybrau beic i’ch tywys i’ch hoff olygfa. Felly, beth am bacio picnic a phwmp beic efallai, a mwynhau ar gefn eich beic.
Mae gennym dros 40 km o lwybrau beic, felly gallwch chi gymryd hoe pryd bynnag y mynnoch ac edmygu’r olygfa. Mae Taith Taf yn Rhondda Cynon Taf yn cysylltu â llwybrau beic ar hyd a lled y De.

Pontypridd
Mae Pontypridd yn fan canolog gwych i ddechrau eich taith. Saif y dref farchnad hanesyddol ar groesffordd 3 llwybr cenedlaethol, Llwybr 4, Llwybr 47 a Llwybr 8 (sy’n cynnwys Taith Taf). Mae’n ddigon hawdd cyrraedd Pontypridd ar y ffordd a’r rheilffordd ac mae’n ganolfan wych ar gyfer chwilota yng Nghymoedd y De.

Y Llwybr Celtaidd - Llwybr 4
Mae’r Llwybr Celtaidd yn rhan o’r Rhwydwaith Cenedlaethol sy’n strategaeth genedlaethol i adeiladu 6500 milltir o lwybrau ag arwyddion, sy’n ddiogel a hwylus i feicwyr, ledled y Deyrnas Unedig. Mae’r Llwybr Celtaidd yn eich tywys ar hyd 220 milltir o’r golygfeydd harddaf a mwyaf amrywiol yn y de a’r gorllewin, o Gas-gwent i Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
Yn Rhondda Cynon Taf mae’r Llwybr Celtaidd yn croesi Taith Taf ger Pontypridd. Os croeswch chi’r ffin ddwyreiniol, bydd y llwybr yn mynd trwy dir Castell Caerffili - un o gaerau mwyaf y canol oesoedd sydd wedi goroesi. Cewch fwy o wybodaeth am y llwybrau beic yn eich ardal ar www.sustrans.org.uk.
Llwybr Lefel Uchel – Llwybr 47
Un llinyn o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yw hwn ac mae’n arwain ar hyd 24 milltir (38km) o diroedd digyffwrdd a choedwigoedd uchel rhwng Pontypridd a Chastell-nedd. Ffyrdd trwy goedwigoedd a llwybrau cul yw’r rhan fwyaf ohono, gyda sawl llethr serth ac arwynebau garw mewn mannau.
Cewch wybodaeth bellach am y Llwybr Lefel Uchel ac am lwybrau beic eraill yn eich ardal ar www.sustrans.org.uk
Sant Gwynno - Ardal Beic Mynydd
Mae llwybr beic mynydd Sant Gwynno yn daith anhygoel yn union yng nghanol Rhondda Cynon Taf, ger Pontypridd. Mae Coedwig Sant Gwynno, yr ardal o amgylch y daith, wedi cadw ei chymeriad ac mae’r amgylchedd gwyrdd toreithiog yn gartref i lawer o adar ac anifeiliaid prin.
Mae’r daith yn cychwyn ar safle picnic Llanwynno ac mae’r 12 km/ 7.5 milltir sy’n dilyn yn eich tywys heibio i fannau o ddiddordeb megis Eglwys Sant Gwynno, Rhaeadr Pistyll Goleu a Chronfa Ddŵr Clydach.
Sut i ddod o hyd y Goedwig Sant Gwynno: Ar ôl cyrraedd Pontypridd, i’r gogledd o Gaerdydd, ewch ar y B4273 i Ynysybwl ac yna i Goedwig Sant Gwynno. Mae maes parcio yn agos i’r man cychwyn ar safle picnic Llanwynno.

Rhaeadr Pistyll Goleu
Mae rhaeadr hon gyda chwymp o 8 metr hefyd yn cael ei galw’n "Fountain of Light" ac adeiladwyd cyfres o risiau a llwyfannau yn ddiweddar i’w gwneud hi’n haws ei gweld.
Cylchoedd a Dolenni
Rhwydwaith newydd o dros 250km o lwybrau ag arwyddion yw Cylchoedd a Dolenni. Maen nhw’n gyfle i archwilio cymoedd, coedwigoedd a bryniau ardaloedd Merthyr a Rhondda Cynon Taf yn y De. Mae’r llwybrau’n addas i feicwyr, cerddwyr a marchogion ac yn amrywio o ychydig gilometrau i dros 70km i’r rhai dewrach yn eich plith. I brynu copi o’r arweiniad enghreifftiol hwn i lwybrau yn yr ardal, dilynwch y ddolen hon i Wefan cylchoedd a dolenni.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’ cliciwch yma.