Bioamrywiaeth
Mae Cymoedd y De yn gyfoeth o fioamrywiaeth. Fel pob trysor cudd mae wedi’i hen golli a’i anghofio a dim ond yn ddiweddar y cafodd ei ailddarganfod, ac fel rhyw gloddfa archeolegol anferth mae un darganfyddiad wedi arwain at un arall.
O dipyn i beth mae arbenigwyr wedi gweld arwyddocâd ein bioamrywiaeth yn y Cymoedd. Mae hyd yn oed yn fwy o syndod oherwydd bod pobl o’r tu allan wedi ystyried y Cymoedd fel ardaloedd diffaith, diflas wedi’u difrodi, a’u diraddio. Rhaid mai dyma’r lle diwethaf dan haul lle byddai bioamrywiaeth yn ffynnu.
Dim perygl!

Gyda meddwl agored ac ychydig o wybodaeth, mae’r hyn sydd y tu ôl i lwyddiant bioamrywiaeth y Cymoedd yn amlwg.
· priddoedd gwael ond amrywiol
· topograffeg, geomorffoleg a daeareg ddwys a chymhleth
· ein hinsawdd fwyn, wlyb
· dulliau rheoli traddodiadol y ffermydd bach ac etifeddiaeth ddiwydiannol y Cymoedd
· pobl yn rhyngweithio â’u hamgylchedd bob dydd
Wedi’u bendithio gyda’r gymysgedd hudolus hwn o amodau ac amgylchiadau, mae Cymoedd y De yn cynnal ystod ac amrywiaeth o gynefinoedd ar dir isel ac uchel, nad oes eu gwell yn unman yn ne Prydain.
Mae Rhondda Cynon Taf ym mherfeddion y Cymoedd ac yng nghanol y cyfoeth hwn o fioamrywiaeth.
Cliciwch yma i gael cipolwg ar fioamrywiaeth Cymoedd Rhondda, Cynon a Thaf.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’ cliciwch yma.