Datblygiadau Tai Hirgul
Cartrefi sy’n herio disgyrchiant
"The houses which have acted to define the Rhondda defy both the law of gravity and the rules of perspective.
They whoosh in banded swathes of form and colour up and over the bumps of roads, driven to geological distraction by faults of nature surpassing even those possessed by the coalowners themselves".
…dyna eiriau’r hanesydd o Donypandy, Dai Smith. Mae sawl mil o bobl yn dal i fyw yn y tai teras sy’n glynu wrth lechweddau Rhondda Cynon Taf.
Terasau Clos
Cafodd y terasau, ynghyd â’r eglwysi, capeli a neuaddau gweithwyr, eu hadeiladu’n frysiog ar lethrau serth y cymoedd ar gyfer y gweithwyr a dyrrodd yno yn ystod y chwyldro diwydiannol.
Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fe gyrhaeddon nhw’r cymoedd prin eu poblogaeth i chwilio am waith yn y diwydiannau haearn a dur, tunplat a glo newydd a oedd yn elwa ar adnoddau mwynol yr ardal.
Pyllau glo a threfoli
Roedd pyllau glo gyda thipiau gwastraff anferth a gefeiliau haearn a dur wedi’u lleoli rhwng y rhubanau hir o dai. Wrth i’r cymunedau diwydiannol dyfu, llenwyd llawr y cwm â ffyrdd cul, camlesi ac yna systemau rheilffyrdd i’w gwasanaethu.
Heddiw mae’r diwydiannau traddodiadol wedi diflannu o Rondda Cynon Taf ac mae’r tirwedd yn troi’n wyrdd unwaith eto ond mae’r miloedd o dai teras sy’n herio disgyrchiant yn dal ar eu traed.
Terasau Albanaidd
Ymhlith tai enwocaf y Rhondda y mae terasau Scotch Row yn Llwynypïa, a enwyd ar ôl Archibald Hood – y gŵr busnes o’r Alban a fu’n gyfrifol am eu hadeiladu. Ef oedd yn berchen ar Bwll Glo Morgannwg (y ‘Scotch colliery’) neu Lwynypïa.
Cawsant eu hadeiladu o 1865 ymlaen yn gartrefi i weithwyr Archibald Hood gerllaw safle’r pwll glo. Maen nhw’n enghraifft o dai’r cyfnod cyn Deddf Iechyd y Cyhoedd 1875, a effeithiodd mewn sawl ffordd ar y diwydiant adeiladu yn nes ymlaen.
Adeiladwyd y terasau deniadol hyn i safon uchel, yn cynnwys ffenestri llydan a gerddi preifat. Mae’r tai yn rhai â dwy ffenestr yn y blaen, dwy ystafell ar y llawr a thair i fyny’r grisiau yn edrych dros erddi blaen hir. Gwnaed y brics a ddefnyddiwyd i’w hadeiladu yn lleol ym Mhwll Glo Llwynypïa, gan ddefnyddio clai tân o Bwll rhif 3.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’ cliciwch yma.