Hel Achau

Ydych gwreiddiau chi’n ddwfn yng Nghymoedd Cymru?

A yw’ch coeden deulu’n ymestyn i feysydd glo a gweithiau haearn y wlad a arweiniodd y Chwyldro Diwydiannol?

Mae gwreiddiau’n ddwfn yn Rhondda Cynon Taf.

Gadewch i ni eich helpu i gloddio’n ddyfnach!

Rhondda Cynon Taf oedd cartref diwydiant trwm Cymru o’r 1850au hyd at yr 1980au. Daeth miloedd o bobl i’r ardal i weithio yn y glofeydd a’r diwydiannau cysylltiedig.

Oedd eich cyndeidiau chi yn eu plith?

Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Rhondda Cynon Taf a’n hadran dwristiaeth wedi cydweithio gydag Archifdy Morgannwg i hwyluso’ch ymchwil i hanes eich teulu. Gwefan newydd sbon yw Troeon Treftadaeth (www.routetoyourroots.co.uk) sydd â’r nod o’ch rhoi chi ar ben ffordd gyda’ch holl ymchwil lleol.

Felly, beth am dreiddio i’ch gwreiddiau yng Nghwm Rhondda, olrhain eich teidiau yng Nghwm Cynon a’ch coeden deulu yng Nghwm Taf?

Dyma rai gwefannau defnyddiol i roi hwb ichi wrth droedio’ch llwybr hanes yn Rhondda Cynon Taf.

www.routetoyourroots.co.uk

Adnodd-un-stop yw hwn ar gyfer pobl sydd ar fin cychwyn y gwaith o olrhain hanes y teulu, y cartref neu’r gymuned yn Rhondda Cynon Taf. Mae’n amlygu rhai o’r adnoddau allweddol sydd ar gael a sut i fanteisio arnyn nhw. Noddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

http://webapps.rhondda-cynon-taf.gov.uk/heritagetrail/index.htm

Mae’r wefan hon yn ganllaw anhepgor ar gyfer dysgu am dreftadaeth ddiwydiannol, gymdeithasol a diwylliannol gyfoethog Rhondda Cynon Taf gan ein gwahodd i ddarganfod dros 200 mlynedd o hanes. Cyrchwch ffotograffau, mapiau a lluniau hanesyddol o gasgliadau’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd, er mwyn dysgu am bobl, achlysuron a straeon am yr ardal yn y gorffennol.

www.rhondda-cynon-taf.gov.uk/photos

Mae dros 16,000 o luniau ar gael ar y wefan hon, yn dangos pob agwedd ar fywyd yn yr ardal o tua 1880 hyd at heddiw. Wedi’u cymryd o’r casgliadau sydd yn Llyfrgelloedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’ cliciwch yma.

Hawlfraint 2008 CBS RhCT - 1024x768 ydy'r manylder gorau ar gyfer y safle yma