Theatrau
Mae’r llenni bob amser ar agor ar gyfer cerddoriaeth, dawns, comedi, cynyrchiadau llwyfan a sinema o’r radd uchaf ym mhrif theatrau Rhondda Cynon Taf - Y Colisëwm, Aberdâr, Canolfan Gelf y Miwni, Pontypridd a Theatr y Parc a’r Dâr, Treorci.
Mae ein rhaglen adloniant flynyddol yn datblygu’n barhaus ac yn cynnwys yr unig berfformiadau yng Nghymru gan artistiaid sy’n amrywio o Ray Davies, Beth Nielsen Chapman a The Buzzcocks, yn ogystal â dawns gyfoes ryngwladol a chlwb comedi misol rheolaidd yng Nghanolfan Gelf y Miwni a drama gan y seren leol Frank Vickery.
Daw tair theatr Rhondda Cynon Taf at ei gilydd i greu Canolfan Celfyddydau Perfformio Rhanbarthol. Derbyniwyd cefnogaeth "Celfyddyd y Tu Allan i Gaerdydd" Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer ein rhaglenni a’n marchnata.
Gan mai dim ond pump o’r canolfannau hyn sydd yng Nghymru, mae Theatrau RCT yn cyd-gynhyrchu sioeau teithiol ac yn mynd ag enw Rhondda Cynon Taf i bob rhan o Gymru.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’ cliciwch yma.
- Aberdare Coliseum

- A colossal variety of entertainment!
- The Muni

- The Muni Theatre and Arts Centre is a beautiful converted church, situated in the centre of Pontypridd close to the Bus Station
- Park and Dare Theatre

- This truly magnificent venue was built in 1913 and funded by the workers of the Park and the Dare Collieries