Pop a Roc

Pop a Roc

Y parti mwyaf lloerig erioed

Tom Jones, Stereophonics, a The LostProphets Gwlad y Gân yw Cymru, medd rhai – yn enwedig ar ôl gwrando ar drigolion Rhondda Cynon Taf.

Mae diwylliant y Cymoedd yn byw ar gerddoriaeth. Mae canu pop a roc llawn mor boblogaidd heddiw â’r corau meibion. Pan ddechreuodd Thomas Woodward siglo’i gluniau yng nghlybiau’r De, roedd newid ar droed. Tom Jones yw enw Mr. Woodward erbyn hyn, ac mae’r Stereophonics a’r Lost Prophets yn fydenwog. Mae bwrlwm ein bywyd cerddorol yn argoeli gwell eto i ddod.

Byddai rhywun yn disgwyl clywed corau meibion mewn capel neu neuadd. Yn yr un ffordd, byddech chi’n disgwyl clywed sêr y dyfodol yn ymarfer mewn tafarn leol neu’n chwarae mewn tafarn. Byddwch yn barod …

A dyma lle cewch chi glywed sêr y dyfodol yn perfformio NAWR:

Clwb y Bont, Pontypridd

Institiwt Cwmaman

Canolfan Gelf y Miwni, Pontypridd

Tom’s Rock Bar, Trefforest

A wyddech chi? Un o Drefforest yw Phil Campbell, prif gitarydd Motorhead! Wrth gwrs, nid y fe yw’r unig rocar o fri sy’n dod o’r pentref. Mae pawb o bobl y byd yn nabod crwt bach Mrs Woodward bellach fel Tom Jones!

Hoffech chi ragor o wybodaeth am Cyrchfan Rhondda Cynon Taf? Cliciwch yma – ac fe gewch gyfle i ennill penwythnos gwych mewn gwesty o safon yn ein raffl.

Hawlfraint 2008 CBS RhCT - 1024x768 ydy'r manylder gorau ar gyfer y safle yma