Gwenwch i’r Camera
Ffeithiau ffynci am ffilmiau!
Rhondda Cynon Taf – cartref y diwydiant ffilm? Ychydig sy’n cofio heddiw mor bwysig oedd yr ardal yma i dwf y diwydiant ffilm cynnar.
Bro Breuddwydion Hud Haggar
Dyn sioe a ffair oedd William Haggar yn wreiddiol, ond cafodd ei swyno’n lân gan ddyfais newydd y sinema. Yn frodor o Essex, gwelodd y sinema am y tro cyntaf yn Llundain. Ei fersiwn gyntaf o ‘Y Ferch o Gefn Ydfa’ ym 1902 ddaeth â William Haggar i sylw’r cyhoedd. Dim ond pum munud oedd ei hyd, ond mae’n bosibl taw dyma’r ffilm ffuglen gyntaf o wledydd Prydain. Mae’n debyg iddo wneud rhwng 40 a 60 o ffilimiau stori hyd at 1909. Dyna’r flwyddyn y collodd ef ei wraig Sarah, a phendefynu rhoi’r gorau i wneud ffilmiau. Ymgartrefodd yn Aberdâr a’r flwyddyn nesaf ac agorodd sinema, y Colisëwm, ym Market Street yno. Dechreuodd adeiladu sinema newydd ym 1913, ac fe agorodd honno ar 23ain Awst 1915. Mae’r cof amdano’n dal yn fyw yn Aberdâr, lle bu’n aelod ymroddedig o’r Cyngor Lleol yn ogystal ag yn berchennog sinemâu. Bellach, mae pobl ym mhob man yn ei gydnabod fel arloeswr mwyaf Cymru ym myd y ffilmiau cynnar. Os hoffech chi wybod rhagor am fywyd a gwaith William Haggar, byddwch wrth eich bodd gyda’r arddangosfa yn Amgueddfa ac Oriel Cwm Cynon, Aberdâr.
Wele sgrîn fawr wen … enwogrwydd aiff â hi!
Cafodd Syr Stanley Baker ei eni yng Nglynrhedynog ym 1928, a daeth yn ffrind mawr i Richard Burton. Enillodd glod am bortreadu cymeriadau braidd yn anghynnes. (Ef oedd y badfeistr cas yn Captain Horatio Hornblower R.N. y ffilm Hornblower gyntaf ym 1951. Buodd yn chwarae Medrawd yn Knights of the Round Table (1953), ac Achiles yn Helen of Troy (1956) cyn ffurfio’i gwmni cynhyrchu’i hun. Aeth hwn ymlaen i gynhyrchu’i ffilm enwocaf, Zulu, lle chwaraeodd Syr Stanley y Lifftenant John Chard. Rhoes un o’i berfformiadau gorau fel Gwyllim Morgan, y tad, ym minigyfres deleu How Green Is My Valley (1975). Bu farw’r flwyddyn nesaf yn ei gartref ym Malaga, Sbaen. Agorodd Clwb Rygbi Glynrhedynog lolfa goffa am ei fywyd a’i waith yn 2006
Deuawd deinamig o Donypandy
Dau frawd oedd yr actorion enwog Donald a Glyn Houston, sêr y sgrîn fawr a’r sgrîn fach hefyd. Fel yr asiant llenyddol Duncan yn nghomedi sefyllfa Keep It In The Family mae llawer yn cofio Glyn heddiw. Enillodd ei ddiweddar frawd Donald glod a bri mewn ffilmiau fel y ffilm ias ‘The Blue Lamp’ (1949) gyda Dirk Bogarde, y comedi Ealing ‘A Run For Your Money’ (1949), ‘633 Squadron’ (1964), ‘Where Eagles Dare’ (1968), a’r ddwy ffilm gomedi ‘Doctor in the House’ (1954) a ‘Doctor in Distress’ (1963). Cymerodd y ddau frawd ran yn ‘Sea Wolves’ (1980).
Mistar Ffantasig o Aberdâr!
Mae pawb o bobl y byd wedi clywed o Ioan Gruffudd. Ond faint ohonoch sy’n gwybod taw un o’r Llwydcoed yw sêr yr ‘X-Men’ a ‘Hornblower’?
Hoffech chi ragor o wybodaeth am Cyrchfan Rhondda Cynon Taf? Cliciwch yma – ac fe gewch gyfle i ennill penwythnos gwych mewn gwesty o safon yn ein raffl.