Mor o Gan

Môr o Gân

Pobl Rhondda Cynon Taf oedd y cyntaf i glywed dau ddarn o gerddoriaeth sydd bellach yn symbolau digamsyniol o’n hunaniaeth fel pobl.

Evan James a James James, Pontypridd, a gyfansoddodd eiriau a thôn yr anthem genedlaethol, ‘Hen Wlad Fy Nhadau’. Cyfansoddodd James James y dôn ar gyfer dawnsio yn ei dafarn, ym 1856. ‘Glan Rhondda’ oedd y teitl gwreiddiol. Cafodd y dôn ei pherfformio yn Eisteddfod Llangollen ym 1858, dan ei theitl newydd. Dechreuodd ennill ei phlwyf yn gyflym. Heddiw, mae ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ i’w chlywed o flaen pob math o achlysuron ym myd diwylliant neu chwaraeon. Y Cymry oedd y cyntaf i ganu’u hanthem cyn gêm rygbi, yn ateb i haka ysgytwol tîm Seland Newydd. Nid yw’r anthem yn achub y dydd bob tro!

Cwm Rhondda, mae’n debyg, yw’r enwocaf o holl emynau Cymru. ‘Wele’n Sefyll Rhwng y Myrtwydd’ yw’r emyn Cymraeg arferol ar y dôn hon, a ‘Guide Me, Oh Thou Great Jehovah’ (ar lafar, ‘Bread of Heaven’) yn Saesneg. John Hughes oedd y cyfansoddwr. Cafodd ei chanu gyntaf yng Nghapel Rhondda, Trehopcyn, yng Nghymanfa Ganu’r Pasg. Bydd Cwm Rhondda i’w chlywed bob amser lle mae’r Cymry’n chwarae rygbi. Mae cefnogwyr pêl-droed yn ei chanu hefyd – ond gyda geiriau braidd yn wahanol.

A wyddech chi?

Mae fersiwn Gernyweg o’r anthem, Bro Goth Agan Tasow (‘Hen Wlad Ein Tadau’) i’w chlywed yng Nghernyw weithiau. Mae’r Llydawiaid wedi mabwysiadau fersiwn Lydaweg, Bro Gozh Ma Zadou (‘Hen Wlad Fy Nhadau’) fel anthem genedlaethol.

Hoffech chi ragor o wybodaeth am Cyrchfan Rhondda Cynon Taf? Cliciwch yma – ac fe gewch gyfle i ennill penwythnos gwych mewn gwesty o safon yn ein raffl.

Hawlfraint 2008 CBS RhCT - 1024x768 ydy'r manylder gorau ar gyfer y safle yma