Cegaid o Fwyd Cymru

Mmm… Mmm… Mmm… Dim ond blas o Gegaid o Fwyd Cymru a gynhelir bob mis Awst ym Mharc Ynysangharad!

Stondinau bwyd a chrefftau Cymru, atyniadau i blant a reidiau ffair, heboga, arddangosfeydd anifeiliaid, bandiau, cerbydau fferm, cerddoriaeth, harneisio merlod, gwehyddu, sesiynau blasu cynnyrch lleol ac arddangosiadau pysgota - dim ond rhai o’r atyniadau sy’n cael eu cynnig bob blwyddyn.

Mae digwyddiadau’n cynnwys:

Ffair Fwyd a Diod Cymru

Amrywiaeth anhygoel o fwyd a diod Cymru i’w flasu neu’i brynu.

Big Bite Cookery Demo

Stondinau Crefft

Dewis gwych o arddangosiadau celf a chrefft o Gymru.

Arddangosiadau yn y Prif Gylch

Gyrru Hwyaid gyda’r Runner Pack, Sioe Heboga y Mynydd Du, Sgiliau Pysgota gyda Hywel Morgan, Sesiynau Rygbi yng nghwmni Clwb Rygbi Pontypridd a Grŵp Dawns Free Stylers.

Driving me quackers

Arddangosiadau Coginio

Gyda’r Cogydd Preswyl Geoff Tookey ynghyd â chogyddion eraill o Indica, Thai Sky ac O’Sullivans.

Partneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Rhondda Cynon Taf

Gwybodaeth a gweithgareddau gan gynnwys Sesiynau Rygbi yng nghwmni Dale McIntosh, Cerfio Coed, Bolddawnsio, State Circus RhCT, Tylino Pen Indiaidd, Adweitheg, Aciwbwysau, Aromatherapi, Sesiynau Chwaraeon Tîm STARS, ymarfer erobeg wrth eistedd, Caffi’r Learning Curve, Canolfan Ddydd Trefforest, Llwybrau Cerdded ac Arddangosiadau Teleofal.

Asiantaeth Safonau Bwyd

Perfformiadau pantomeim ar thema iechyd a glanweithdra.

Masnachu Teg

Arddangos dewis amrywiol o gynnyrch Masnachu Teg.

Atyniadau Eraill

Hen Gerbydau Fferm, Ffair, Diddanwyr ar Grwydr, Saethyddiaeth, Gof, Defaid a Geifr Pigmi, wal ddringo.

Big Bite Birds of Prey

I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’ cliciwch yma

To find out more about events in Rhondda Cynon Taf, please cliciwch yma

Hawlfraint 2008 CBS RhCT - 1024x768 ydy'r manylder gorau ar gyfer y safle yma