Arts
Sonig
Lansiwyd Diwydiant Cerdd Ieuenctid SONIG gan Uned Gelfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ym mis Hydref 2000 yng Ngŵyl Ymylol Radio ONE-1 Live yng Nghaerdydd. Mae’r prosiect yn manteisio ar gryfderau’r diwydiant cerdd yng Nghymru i gynorthwyo datblygiad personol a diwallu anghenion dysgu pobl ifanc wedi dadrithio. Mae SONIG yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc rhwng 8 a 25 oed i greu cerddoriaeth wreiddiol, cymryd rhan mewn cerddoriaeth roc a phop, dysgu am y diwydiant cerdd a chymryd rhan ynddo, yn ogystal â chynorthwyo i ddatblygu diwydiant cerdd ymarferol yn Rhondda Cynon Taf fel rhan o glwstwr y De.
Plugged In
Mae gan Rhondda Cynon Taf ei gylchgrawn cerddoriaeth ei hun a gynhyrchir gan ysgrifenwyr, ffotograffwyr a dylunwyr ifanc o’r ardal. Mae ‘Plugged In’ yn cynnwys cyfweliadau ac adolygiadau unigryw o dalent newydd ifanc lleol a phrif fandiau’r fwrdeistref. Mae’r holl luniau a ddefnyddir yn ffotograffau gwreiddiol sydd wedi’u tynnu’n arbennig ar gyfer y cylchgrawn. Mae ‘Plugged in’ wedi’i gefnogi gan Ddiwydiant Cerddoriaeth Ieuenctid SONIG a’r rhaglen Celfyddydau Ieuenctid a Chyfryngau Digidol, rhan o Adran Gwasanaethau Diwylliannol Rhondda Cynon Taf.
Am ragor o wybodaeth ewch i www.myspace.com/pluggedinmagazine

