Trefi
Os mai siopau crefft, siopau anrhegion, marchnadoedd traddodiadol neu siopau canol y dref sy’n mynd â’ch bryd, mae’r cyfan ar gael yng Nghanol Trefi Rhondda Cynon Taf.
Galwch heibio i farchnadoedd prysur Pontypridd ac Aberdâr, prif strydoedd traddodiadol Treorci, Tonypandy a’r Porth neu brif strydoedd bach Aberpennar a Glynrhedynog. Cewch chi flas ar ddiwylliant yn nhref Llantrisant ynghyd â gwledd o grefftau. Mae cefn gwlad ysblennydd yn gefndir i’r cyfan ynghyd â theithiau cerdded ac atyniadau’r diwydiant ymwelwyr dim ond taith munudau i ffwrdd.