Pontypridd

Pontypridd Bridges

Tref Farchnad Fywiog

A hithau’n gorwedd yn glyd wrth draed llechweddau coediog lle mae Afon Rhondda’n ymuno ag Afon Taf, mae Pontypridd yn dref farchnad draddodiadol, brysur, lle sy’n ennyn chwilfrydedd, llawn cymeriadau. Dyma, hefyd, gartref i 16,000 o fyfyrwyr Prifysgol Morgannwg.

Yn ystod y 19eg. ganrif roedd Pontypridd yn ferw, yn ganolfan i ddiwydiannau trymion a chloddio am lo a Brown Lenox yn enwog am ei gadwyni ar gyfer angorau llongau a phontydd ac roedd gwaith tun yn Nhrefforest a chrochendy yn Nantgarw.

Mae i’r dref draddodiad cryf ym meysydd chwaraeon a diwylliant. Mae Clwb Rygbi Pontypridd a’r cyn chwaraewr Neil Jenkins, sy’n dal record y byd am nifer y pwyntiau a sgoriodd, yn enwog ledled y byd ac mae cyfleusterau dan do ac awyr agored o’r radd flaenaf yn perthyn i gyfadeiladau hamdden pentre’r Ddraenen-wen.

Cerdd a chân

Mewn pentrefi cyfagos y ganed Stuart Burrows a Syr Geraint Evans, sêr byd opera a chanu clasurol a Tom Jones, un o sêr byd canu poblogaidd.Yma, ym 1856, y cyfansoddodd Evan James a’I fab, James James, ein Hanthem Genedlaethol – ac mae cofgolofn hardd, o waith y cerflunydd Syr Goscombe John, iddyn nhw ym Mharc Ynysangharad.

Mae darpariaeth dda ar gyfer y celfyddydau yn Theatr y Miwni a bydd cyngherddau’n cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden y Ddraenen-wen – ac ym Mhrifysgol Morgannwg, wrth gwrs, canolfan fywiog sy’n cynnal adloniant i bobl ifainc.

Megis pob tref farchnad, daw bywiogrwydd Pontypridd yn arbennig o amlwg bob dydd Mercher a dydd Sadwrn pan fydd un o'r marchnadoedd awyr agored mwyaf yng Nghymru’n llenwi’i strydoedd. Mae yno fatiau a charpedi, esgidiau a chrysau, crochenwaith a llenni, nwyddau lledr a phethau ffansi, mân betheuach a phethau diwerth – bargeinion rif y gwlith! Yn y cyfamser, yn y farchnad dan do y tu cefn iddyn nhw, mae’r byrddau’n gwegian dan bwysau cynnyrch ffres; – bresych a blodfresych hyd y to, afalau, cawsiau lleol, menyn yn syth o’r fuddai a bara lawr.

Yn ymyl wele’r prif gylch siopa, sy’n troi o gwmpas Taff Street, gyda’r banciau a chyflenwyr swyddfeydd ochr yn ochr â chigyddion, pobyddion, asiantau teithio a gemwyr – yn ogystal ag enwau’r ‘stryd fawr’, megis Marks a Spencer,Woolworth, WH Smith a Boots.

Parc Coffa Rhyfel Ynysangharad

A phan fydd prysurdeb a ffair canol y dref wedi mynd yn drech na chi, mae yma dai bwyta, tafarndai a gwestyau i’ch denu ac, ar draws yr afon, Parc Ynysangharad â’i lwybrau coediog, gerddi, a golygfeydd o’r mynyddoedd sy o gwmpas. Mater o ychydig funudau yn y car a dyna chi mewn coedwigoedd a’r ucheldir gwyllt; felly mae modd ichi gyfuno’ch taith i siopa ag ychydig o ymhyfrydu yn y golygfeydd, taith gerdded, beicio ar hyd Lwybr y Taf neu ymweld ag Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda nid nepell i ffwrdd.

Pontio’r byd

Cewch hanes y dref yng Nghanolfan Hanes a Diwylliant Pontypridd ar lan Afon Taf gerllaw, yn ymyl yr Hen Bont enwog.William Edwards a’I cododd hi ym 1756, gan roi 6 o dyllau crwn drwyddi er mwyn cyfeirio’r pwysedd ar ganol ei hunig fwa. Hon oedd â’r bwa hwyaf o holl bontydd cerrig Ewrop gyfan y dyddiau hynny a chymaint ei chlod fel bod Josiah Wedgwood wedi’i defnyddio hi’n batrwm ar gasgliad o lestri cinio a gomisiynodd Catrin Fawr o Rwsia.

Uwchlaw pob dim, mae Pontypridd yn le bach cryno, cyfeillgar a gallwch chi ddibynnu ar gael croeso lle bynnag ewch chi – i siopa yn y farchnad neu i brofi awyrgylch y dre mewn unrhyw dafarn draddodiadol neu gaffi modern - a chartref ein hanthem genedlaethol.


I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’, cliciwch yma.

Pontypridd Pontypridd

St Catherines, Pontypridd Pontypridd bont

Dewch am dro drwy hanes Pontypridd, ar Lwybr Treftadaeth Rhondda Cynon Taf. Cliciwch yma.

Hawlfraint 2008 CBS RhCT - 1024x768 ydy'r manylder gorau ar gyfer y safle yma