Hoffwn i...

Mae cymaint i’w wneud a’i weld yma a chymaint o ddewisiadau i’w gwneud…

Dyma’r rhan o’r wefan lle gallwch chi wneud y dewisiadau pwysig am beth i’w weld, ei wneud a’i brofi yn Rhondda Cynon Taf.

Felly os ydych chi am roi tro ar rasys bygi ym Mhonty neu gerdded yn Aberdâr, dyma’r lle i ddechrau…

Dewiswch dref a rhoi tic yn y bocs ar gyfer y gweithgaredd mae gyda chi ddiddordeb ynddo.

Er enghraifft, os hoffech chi fynd i siopa yn Llantrisant, dewiswch Lantrisant o’r rhestr ar y gwymplen, rhoi tic yn y blwch ‘siopa’ ac yna gwasu’r botwm ‘chwilio’. Hawdd!

Chwilio eto
Gwesty Beili Helyg
Gwesty Beili Helyg
Hen adeiladau fferm o’r 18fed ganrif sy wedi’u hadfer i gynnig ystafelloedd 4* gydag ystafelloedd ymolchi’n gysylltiedig. Mae i bob ystafell fynediad ar wahân, felly mae croeso ichi fynd a dod fel ag y mynnoch.
Fferm Blaen Nant y Groes
Fferm Blaen Nant y Groes
Yng nghanol 15 erw o goedwigoedd a phorfeydd preifat wrth ymyl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae’r bythynnod gwyliau 4-seren yma’n mwynhau golygfeydd godidog dros gefn gwlad.
Ceffyl Cottage
Ceffyl Cottage
Lleoliad delfrydol ar gyfer darganfod de Cymru. Mae’r bwthyn ar gael i’w rhentu am hyd at 4 wythnos. Dyma leoliad gwych ar gyfer eich gwyliau ‘dianc rhag y cyfan’, gwyliau i ymlacio neu daith fusnes. 2 ystafell
Gwesty Central
Gwesty Central
Mae’r perchnogion, John a Denise Scanlon â’u gwreiddiau yn yr ardal ac yn ffynonellau o wybodaeth heb eu hail. Maen nhw’n cynnig croeso Cymreig cynnes a brecwast mawr wedi’i baratoi gyda chynnyrch lleol.
Bwthyn a Thŷ Bynciau Cwm Cynon
Cynon Valley Bunkhouse
Mae’r Ganolfan yn addas ar gyfer pob math o grwpiau er enghraifft grŵp o ddisgyblion ysgol sydd ag amserlen lawn o waith maes, y grŵp gweithgareddau di-baid sydd am gael rhagor o anturiaethau awyr agored a’r grŵp gwyliau mwy hamddenol sydd am ymlacio a mwynhau’r atyniadau lleol.
Hawlfraint 2008 CBS RhCT - 1024x768 ydy'r manylder gorau ar gyfer y safle yma