Glynrhedynog
Gan sefyll 300 metr uwchben lefel y môr, Glynrhedynog, yng Nghwm Rhondda Fach, ydy’r dre uchaf yn Rhondda Cynon Taf. A’i seiliau ar silff o graig uwchlaw gwaelod y cwm, coetiroedd o’i hamgylch a tharenni creigiog yn crogi uwch ei phen, mae Glynrhedynog dipyn yn wahanol I aneddleoedd eraill Cwm Rhondda.
Mae priffordd A4233 yn cysylltu Glynrhedynog â’r Porth ac ag Aberdâr, gan roi mynediad hwylus i gefnffordd A470 i Gaerdydd a Ffordd Blaenau’r Cymoedd tra bo ffordd B4277 yn bwrw dros gopa Penrhys i’w chysylltu â threfi Treorci a
Thonypandy yng Nghwm Rhondda Fawr. Mae bysiau’n rhedeg yn aml rhwng pentrefi Cwm Rhondda Fach a Glynrhedynog ac mae gwasanaethau cyflym i Gaerdydd a bws cysylltu â rheilffordd Cwm Rhondda yn Ystradyfodwg.
Stryd Fawr Glynrhedynog
Mae rhesi o siopau traddodiadol prysur ar hyd ochrau’r stryd fawr, lawer ohonyn nhw’n barau: dwy siop lysiau, dau gigydd, dwy archfarchnad fechan a dau gaffi.Yn ogystal â’r rhain, mae amryw siopau arbenigol, gan gynnwys siop ddillad i ferched, siop anifeiliaid anwes a siop nwyddau
haearn – trysorfa i selogion DIY.
Man geni Syr Stanley Baker
Ychydig gamau oddi ar y stryd fawr mae llechfaen i nodi lle ganed Syr Stanley Baker ac mae cofeb iddo ym Mharc Greenwood, ar lawr y cwm yn ogystal. O gymryd tro bach ar hyd wastadedd Parc Greenwood, dyna gyfle ichi fwynhau’r golygfeydd dros y mynyddoedd sydd o amgylch a’r llwybr sy’n arwain at Gofeb i’r Glowyr sy’n coffáu trychinebau
1867 a 1869.
Parc y Darren
Ond fyddai’r un ymweliad â Glynrhedynog yn gyflawn heb droi i Barc y Darren. Gan guddio yn y coed uwchlaw’r dref, mae’r parc wedi’i gynllunio o amgylch Llyn-yforwyn â’i ddw^r yn llenwi hollt yng nghraig llawr y mynydd. Oddi ar y llwybrau cysgodol yn y parc mae modd ichi weld golygfeydd o’r creigiau garw uwchben y llyn yn ogystal â golygfeydd allan dros y cwm. I’r egnïol ei anian, mae llwybrau’n dringo i
gefnen y mynydd ac oddi yno mae golygfeydd godidog sy’n ymestyn o Fannau Brycheiniog I Exmoor yng Ngwlad yr Haf. Mae modd i’r modurwr, yntau, gyrchu’r copaon gwyllt, naill ai ar hyd ffordd A4233 dros y mynydd o’r Maerdy i
Aberdâr neu’r ffordd gefn sy’n dringo tarren gogledd dwyreiniol y cwm trwy Flaenllechau i Lanwynno.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’, cliciwch yma.

Archwiliwch hanes Glynrhedynog gan ddefnyddio Llwybr Treftadaeth Rhondda Cynon Taf a chlicio yma.