Parc Gwledig Cwm Dâr Atyniadau

Dare Valley Country Park
  • Restaurant
  • Electric Hook UP
  • Parking
Dare Valley Country Park
Aberdare
Rhondda Cynon Taf
CF44 7RG
Ffôn
01685 874672
Ffacs
01685 882919
Gweld map
darevalleycp@rhondda-cynon-taf.gov.uk
www.darevalleycountrypark.co.uk

Disgrifiad

Parc Gwledig Cwm Dâr

Dewch am dro hamddennol

Lan a lawr y bryn

Gan ddilyn llwybrau'r afon

A bywyd gwyllt y llyn

Ac ar ôl crwydro'r cymoedd

A mynd o le i le

Cewch seibiant yn y caffi

A dishgled fach o de

Gall fod yn ormod i’w lyncu. Un olygfa ar ôl y llall. Felly ar ôl mynd am dro hir trwy Barc Gwledig Cwm Dâr neu ar ôl mynd ar eich beic, neu …. wel, unrhyw beth a dweud y gwir, mae’n dda gwybod bod yna gaffi gwych lle gallwch chi ymlacio a rhoi saib i’ch traed … a’ch llygaid!

Wrth gwrs mae digon i’w wneud ar ôl cael paned …

Dare Valley Country Park Lake and Heron

Mae Cwm Dâr yn lle gwych i aros ynddo a chwilota – mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn ymestyn dros 500 erw o gefn gwlad hardd dim ond milltir o Dref Aberdâr.

Darren View from Dare Valley Country Park

Parc gwledig cyntaf Prydain ar dir diwydiannol

Hwn oedd parc gwledig cyntaf Prydain i gael ei ddatblygu ar dir diwydiannol. Mae’r wythïen lo yn agos iawn i’r wyneb yng Nghwm Dâr lle’r arferai 19 o byllau glo a chloddfeydd drifft rwygo’r tir. Yn dilyn dirywiad y diwydiant gwnaed llawer o waith tirlunio ar y cwm ac ym 1972 agorwyd y Parc Gwledig.

Gwersylla a Charafanio

Addysg

Caffi

Llety

Chwilio’r awyr agored

Digwyddiadau ym Mharc Gwledig Cwm Dâr

I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’ cliciwch yma.

Mynediad


View Larger Map
Parcio

Parking available on site

Trafnidiaeth gyhoeddus agosaf

Sut i ddod o hyd i ni

Ar y trên neu fws - Gwasanaeth rheolaidd rhwng Gorsaf Ganolog Caerdydd ac Aberdâr, gyda gwasanaeth lleol cyfyngedig hyd at filltir o’r ganolfan (ffoniwch i gael manylion.) Mae hefyd gwasanaeth tacsi rheolaidd ar gael o ganol tref Aberdâr.

Ar feic – Mae llwybr cerdded a seiclo, milltir o hyd, yn arwain o Lyfrgell Aberdâr i’r Ganolfan Ymwelwyr

Yn y car - O ganol y dref, cymerwch yr A4233 (arwyddion i’r Maerdy) a chymryd y pedwerydd troad i’r dde i mewn i Highland Place. Mae’r mynediad i’r parc ym mhen pellaf Highland place

Hawlfraint 2008 CBS RhCT - 1024x768 ydy'r manylder gorau ar gyfer y safle yma