Rydych chi wedi cyrraedd eich arhosiad byr nesaf – Cyrchfan Rhondda Cynon Taf – mae’n bleser eich gweld!

Mae’r wefan hon yma i roi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi ar gyfer eich ymweliad.

Gobeithio ei bod hi’n llawn gwybodaeth ac yn hawdd i’w defnyddio.

Bydd ymweliad â Rhondda Cynon Taf yn cynnig golygfeydd rhagorol, hanes diddorol a phrofiad diwylliannol bywiog i chi. Ond mae hynny ar gael ym mhobman yng Nghymru.

Felly, beth sy’n gwneud eich ymweliad â’n Cymoedd mor arbennig?Ein clust am alaw? Emynau, ariâu… a cherddoriaeth roc?Neu, ein hanes? Y Cymoedd a adeiladodd y Gymru fodern wedi’r cwbl.Neu, ein cymoedd dwfn, rhaeadrau, rhesi hirgul o dai, afonydd a mynyddoedd mawreddog?Neu efallai ein pobl a’n croeso?

Mae’r rhain i gyd yn cyfrannu at y profiad yn ôl ein hymwelwyr. Dewch i weld drosoch eich hun.


Hawlfraint 2008 CBS RhCT - 1024x768 ydy'r manylder gorau ar gyfer y safle yma