Digwyddiadau

Ogof Siôn Corn

Un o uchafbwyntiau’n calendr digwyddiadau yw ymweliad blynyddol Siôn Corn. Mae Siôn a’i gorachod yn ymgartrefu yn eu ogof a’r gweithdy o ddiwedd mis Tachwedd tan ychydig cyn y Nadolig, pan fydd yn gorfod dychwelyd i Begwn y Gogledd i weld ei geirw a gorffen ei restri cyn Noswyl y Nadolig.

Gwneuthurwyr Ffyn

Mae Gwneuthurwyr Ffyn De Cymru wedi cynnal eu cyfarfodydd chwarterol yng Nghwm Dâr ers blynyddoedd. Hefyd maent yn cynnal sioe yn arddangos eu gwaith, ac yn cynnal gweithdai ac arddangosfeydd o sawl gwahanol fath o waith coed bob mis Medi. Maent wrth law drwy’r amser i sgwrsio ag unrhyw un sy’n dangos diddordeb, ac yn awyddus i annog aelodau newydd.

Am fanylion ewch i: www.southwalesstickmakers.org

Sculpture in Dare Valley Country Park gallery

Dramâu a Chyngherddau ar y Buarth

Mae’r buarth yn troi’n llwyfan o bryd i’w gilydd ac yn atseinio geiriau Shakespeare ar achlysuron.

Midsummer Night's dream cast in Dare Valley Country Park

Mae jyglwyr, clowniau, storïwyr ac eraill yn ymwelwyr rheolaidd gydol gwyliau’r haf.

Cynhelir cyngherddau hefyd ar ddyddiau Sul yn yr haf gydag amrywiaeth o wahanol arddulliau cerddorol, gan gynnwys jazz, gwerin, cantorion pedwar llais, roc ysgafn …. rhywbeth at ddant pawb (gobeithio).

Digwyddiadau a dyddiau gweithgareddau i’r plant

Cynhelir cyfres o ddyddiau gweithgareddau bob blwyddyn ar gyfer plant a byddwn yn agor cwrs cyfeiriannu newydd yn fuan ar gyfer grwpiau o bobl ifanc a theuluoedd.

Chris Moreton at Dare Valley Country Park Event

Pentref Byd-eang

Rydym wedi cynnal digwyddiad llwyddiannus iawn yn y ddwy flynedd ddiwethaf i hyrwyddo ymwybyddiaeth o faterion byd-eang. Mae’n cael ei gynnal ar y cyd â rhaglen gwirfoddolwyr UNAexchange sy’n ymgynnull ei holl wirfoddolwyr i Gymru i roi blas iddynt ar wahanol ddiwylliannau.

I gael manylion am UNAexchange ewch i: www.unaexchange.org

Multicultural Event at Dare Valley Country Park

Digwyddiadau Diddordeb Penodol

Fel cyrchoedd ffwng, gwylio ystlumod, gloÿnnod byw a gwyfynod, nosweithiau seryddol a llawer mwy.

Cliciwch ar ein tudalennau digwyddiadau i weld pa ddigwyddiadau sydd ar y gweill.

I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’, cliciwch yma.

Hawlfraint 2008 CBS RhCT - 1024x768 ydy'r manylder gorau ar gyfer y safle yma