Parc Coffa Ynysangharad Atyniadau

Ynysangharad War Memorial Park
Bridge Street
Bridge Street
Pontypridd
Rhondda Cynon Taf
CF37 4PE
Ffôn
01443 404699
Ffacs
01443 408433
Gweld map

Disgrifiad

Ymlacio yn y parc.

Does dim byd gwell na mynd am dro yn y parc. Heblaw eich bod yn hoffi’ch cerddoriaeth fyddarol yn y Full Ponty. Neu, bod well gennych chi eich cynnyrch bwyd lleol yn y Big Welsh Bite. Neu gerddoriaeth hamddenol o flaen y llwyfan perfformio Fictoraidd. Neu eich bod yn hoffi gwylio Criced. Neu rygbi. Neu bêl-droed. Chwarae Tenis. Loncian. Padlo. Neu ymlacio a mwynhau hufen iâ.

A dydy ni heb gychwyn ar yr hanes eto…..

Parc Coffa Ynysangharad yw lleoliad rhai o ddigwyddiadau mwyaf Rhondda Cynon Taf. O gyngherddau roc gyda rhai o’r bandiau cenedlaethol a rhyngwladol gorau a doniau lleol i gorau a bandiau pres lleol, mae rhaglen gerddoriaeth reolaidd gydol misoedd yr haf.

Cynlluniwyd Parc Coffa Ynysangharad mewn arddull Edwardaidd yn yr 1920au. Agorodd y Maeslywydd a’r Is-iarll Allenby y parc fel parc cofeb rhyfel ar 6 Awst 1923. Roedd y parc ar lain trionglog o dir yn wreiddiol rhwng Tŷ Ynysangharad a gweithfeydd cadwyni Brown Lenox, ac yn cynnwys caeau, gerddi lotment a pherllan. Heddiw, mae sawl nodwedd amlwg yn y parc. Mae pobl yn tyrru i’r llwyfan perfformio i ymlacio. Mae’r cyfleusterau chwaraeon o’r radd flaenaf gyda dwy lawnt fowlio, dau gae pêl-droed a chwrs golff 18-twll. Mae hyd yn oed bwll padlo tymhorol a mannau gwerthu bwyd a diod.

I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’, cliciwch yma.

Trafnidiaeth gyhoeddus agosaf


View Larger Map
Hawlfraint 2008 CBS RhCT - 1024x768 ydy'r manylder gorau ar gyfer y safle yma